Hanfod maethu yw gofalu am blant rhywun arall yn eich cartref chi. Gall hyn fod am rai dyddiau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Mae ar y plant hyn angen eich help oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth; efallai y byddant wedi cael eu cam-drin neu eu gadael neu efallai nad yw eu rhieni naturiol yn gallu gofalu amdanyn nhw mwyach. Mae gofal maeth yn ymwneud â rhoi siawns gwell mewn bywyd i blant, plant a fyddai’n wynebu dyfodol llai na disglair heb bobl fel chi. Mae dod yn ofalwr maeth yn ddewis gyrfa boddhaol a heriol. Nid yw’n debyg i unrhyw swydd arall y byddwch wedi’i chael o’r blaen. Trwy gynnig cartref croesawgar a’r cyfle i ddod yn rhan o deulu, byddwch yn rhoi i berson ifanc y cyfle i ailadeiladu eu bywydau, adennill eu hyder ac, yn y pendraw, y cyfle i edrych ymlaen at ddyfodol gwell.
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
Mae Gofal Pathway yn sylweddoli bod gan ofalwyr posibl ddewis wrth ddethol sefydliad i weithio iddo. Felly pam dewis Gofal Pathway? Mae ein gofalwyr wedi dweud wrthym bod ffactorau allweddol penodol sy’n golygu bod Gofal Pathway yn well na sefydliadau eraill. Mae’r pecyn cymorth a gynigir gennym yn uchel ar y rhestr, cymorth a gefnogir gan baratoad, asesiad a hyfforddiant parhaus helaeth gyda’r sicrwydd o gefnogaeth wrth gefn pedair awr ar hugain.Mae manteision niferus i faethu gyda Gofal Pathway. O safbwynt personol, gall roi’r cyfle i bobl sydd o’r farn bod ganddynt rywbeth i’w gynnig i gael eu gwobrwyo ar lefel bersonol ac i gael boddhad wrth newid cyfeiriad bywyd person ifanc.O safbwynt ffordd o fyw, mae dod yn ofalwr maeth yn ddewis gyrfa proffesiynol. Gyrfa sy’n eich galluogi chi i weithio o gartref, ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ac ennill pecyn tâl cystadleuol. Mae pecynnau ariannol yn amrywio rhwng £16,000 - £18,000 y plentyn y flwyddyn, yn dibynnu ar leoliad rhanbarthol.Yng Ngofal Pathway rydym yn hoff o fagu’r teimlad ein bod ni i gyd yn perthyn i deulu estynedig. Mae ein holl ofalwyr yn datblygu cysylltiadau gwaith agos â’i gilydd, gan ddod ynghyd mewn grwpiau cymorth misol, diwrnodau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol, gan rannu a gwrando ar brofiadau a phryderon ei gilydd. Sefydlwyd llawer gyfeillgarwch bywyd rhwng ein gofalwyr yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf. Dychwelir y cysylltiadau gwaith agos a’r rhwydweithiau gwrando hyn gan ein gweithwyr cymdeithasol profiadol, sydd wrth law 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i helpu i ymdrin ag unrhyw bryderon neu broblemau sy’n codi. Fel Gofalwr Maeth Gofal Pathway, cewch eich cofrestru’n aelod o’r Rhwydwaith Maethu, y corff DU-gyfan i bawb sy’n ymwneud â gofal maeth yn bersonol neu’n broffesiynol. www.fostering.net
Plant y mae arnynt angen eich help Mae’r plant y gofalwn amdanynt yn dod o bob math o gefndiroedd ac amgylchiadau gwahanol. Gallant amrywio o faban newydd-anedig i berson ifanc 17 oed. I roi syniad gwell i chi am y plant rydym yn gweithio gyda nhw a’r amgylchiadau maent yn eu cael eu hunain yn eu hwynebu, rydym wedi cynnwys rhai astudiaethau achos enghreifftiol. (Rydym wedi newid yr enwau i amddiffyn gwir hunaniaeth y plant). Rydym hefyd wedi cynnwys nifer o ddyfyniadau gan blant y gofynnwyd iddynt yn ddiweddar enwebu eu gofalwyr am wobr.
Lucy, tair ar ddeg oed.
Mae Lucy yn y system ofal ers y tair blynedd diwethaf. Ni allai ei mam ddygymod â’r cyfrifoldeb o ofalu am ei phlant. Mae gan fam Lucy broblemau iechyd meddwl ac mae hefyd wedi dioddef trais domestig gan sawl un o’i phartneriaid ac, o ganlyniad i hynny, mae’r teulu wedi gorfod treulio amser mewn llochesau menywod gwahanol ledled y wlad. Gosodwyd enwau Lucy a’i brodyr a chwiorydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o dan y categori esgeulustod a cham-drin emosiynol.Mae Lucy wedi profi sawl methiant o ran lleoliadau maeth cyn cael ei gosod o fewn lleoliad preswyl am flwyddyn. Mae hi wedi newid ysgol pum gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac o ganlyniad i hynny mae ei haddysg wedi dioddef yn sylweddol. Yn ddiweddar, cychwynnodd Lucy mewn ysgol uwchradd newydd ac eisoes, gyda chefnogaeth, mae’n gwneud cynnydd cyson. Er hynny, gall ei hymddygiad fod ychydig yn anwadal o hyd pan nad yw pethau yn mynd ei ffordd hi yn y dosbarth.Mae Lucy yn cadw mewn cysylltiad â’i theulu geni unwaith bob pythefnos. Mae cyfathrebu da wedi datblygu rhwng mam Lucy a’i rhieni, a bu hyn yn hwb i Lucy sy’n falch bod ei mam yn siarad â’i theulu maeth. Cyn dod o hyd i deulu Gofal Maeth priodol, roedd Lucy wedi dweud yr hoffai fod yn rhan o deulu prysur gyda phlant eraill, ac y byddai’n well ganddi deulu â llawer o anifeiliaid. Yng Ngofal Pathway bu modd i ni nodi un o’n teuluoedd a fodlonai’r mwyafrif o ofynion Lucy. Ar ôl trafod y mater â nhw, fe gytunon nhw i gwrdd â Lucy a’i gweithiwr cymdeithasol. Cynhaliwyd cyflwyniadau dros gyfnod o bythefnos, ac erbyn diwedd y cyfnod hwn cytunwyd i osod Lucy gyda’r teulu.Digwyddodd hyn oll sawl mis yn ôl, ac er ei bod yn gymharol gynnar yn y lleoliad o hyd, mae’n ymddangos bod Lucy’n rhesymol sefydlog. Mae’r ysgol yn mynd yn dda yn ôl pob golwg ac mae Lucy wedi dod yn rhan o gylch newydd o ffrindiau. Mae yna gysylltiad rheolaidd â theulu Lucy fel y cytunwyd, er nad yw hyn heb anawsterau ar brydiau. Mae Lucy’n ymddangos wedi ymlacio ac yn gyfforddus yn ei lleoliad newydd, mae ei gweithiwr cymdeithasol yn hapus â’i chynnydd ac yn cefnogi’r lleoliad yn llawn.
John, 12 oed
Mae John yn y system ofal ers yn chwech oed, pan ganfuwyd ei fod yn cael ei gam-drin gan ei dad. Er gwaethaf sawl lleoliad gyda’i frawd hŷn, cawsai John hi’n anodd setlo mewn unrhyw gartrefi maeth. Dim ond yn dilyn lleoliad lle cafodd ei wahanu o’i frawd hŷn y cychwynnodd ddangos arwyddion o welliant. Gosodwyd John gyda Gofalwr Maeth Gofal Pathway ddwy flynedd yn ôl. Er bod cynnydd yn araf ar y cychwyn, ac yn anodd i’r gofalwyr ar brydiau, glynwyd wrth y dasg. O ganlyniad, mae’n ymddangos bod John erbyn hyn wedi pasio trobwynt yn ei fywyd. Mae wedi newid o fod yn blentyn encilgar, ymosodol weithiau, yn unigolyn mwy hyderus sy’n hoff o fwynhau ei hun. Mae ei waith ysgol wedi gwella’n ddramatig ac, yn gyffredinol, trawsnewidiwyd ei ymddygiad.
Dyfyniadau go iawn gan rai o’n Plant sy’n Derbyn Gofal, wrth ofyn iddynt am eu barn am eu rhieni maeth.
"Mae Jan fel mam go iawn i mi. Os oes gennych chi broblem fe wneith hi ei ddatrys. Rwyf wedi bod yn byw gyda Jan ers blwyddyn a 4 mis, mae hi wedi fy helpu i gyflawni popeth rwyf am ei wneud. Rwy’n gwybod pan rwy wedi cynhyrfu neu fod angen ychydig o gariad arna i ei bod yno i mi. Byddaf yn cadw darn o galon Jan gyda fi ble bynnag yr af i, a bydda i’n ei drysori" "Maen nhw’n goddef f’ymddygiad hyd yn oed os nad ydw i mor dda â hynny, maen nhw’n fy nhrin i yn rhan o’r teulu, rwy’n credu eu bod nhw’n fy hoffi. Rwy’n hoffi bywyd yno." "Cyn i mi gwrdd â nhw roeddwn i wastad yn mynd i drwbwl, gwnaethon nhw ddangos i mi nad oedd rhaid i mi fynd i drwbwl, felly nawr rwy’n teimlo’n hapusach yn fy hun am beidio â gwneud hynny. Os ydw i’n teimlo’n ddig neu’n drist ac am greu helynt, galla i eistedd a siarad â nhw, rwy’n credu eu bod nhw’n wych"
Ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud hynDaw gofalwyr maeth o bob math o ddiwylliannau a chefndiroedd, parau â phlant neu heb blant, pobl sengl, pobl sydd wedi ysgaru, rhieni sengl, gall pob un wneud gofalwr maeth gwych. Yn ddamcaniaethol, yr unig beth sydd arnoch ei angen yw ystafell wely sbâr, ond mewn gwirionedd bydd angen rhinweddau personol penodol arnoch. Isod, rhestrwn y rhinweddau personol rydym yn credu bod eu hangen ar ofalwyr. I ddangos sut y mae’r rhinweddau hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn, rydym hefyd wedi cynnwys profiadau dau set o Ofalwyr sy’n gweithio i Ofal Pathway ar hyn o bryd.
Nodweddion Gofalwr Maeth
- Yn wirioneddol hoff o blant a bod gennych allu i’w gwneud i deimlo bod croeso iddynt yn eich cartref a’u bod yn ddiogel yno.
- Sensitifrwydd tuag at groesawu ac ymgysylltu â theulu geni plentyn.
- Y gallu i alluogi plentyn/person ifanc i gychwyn datblygu ymdeimlad o’i hunanwerth ac i wella ei hunan-barch.
- Synnwyr digrifwch da.
- Dealltwriaeth o blant a phobl ifanc a gallu i uniaethu â nhw.
- Yr hyder i osod ffiniau rhesymol a disgwyliadau eglur ar gyfer ymddygiad.
- Y gallu i gynnig arweiniad a chyngor lle bo’n ofynnol, gan helpu plant i reoli eu bywydau o ddydd i ddydd yn llwyddiannus.
- Y gallu i alluogi’r plant hyn i gymedroli eu hymddygiad.
- Y gallu i faethu plant o ystod oedran eang.


