Yng Ngofal Pathway rhown gyfle i bobl ifanc ddod yn rhan o deulu, boed am gyfnod hir neu am gyfnod byr. Mae ein Gofalwyr Maeth yn cynnig y sefydlogrwydd angenrheidiol i blant gymryd y cam nesaf tuag at adeiladu dyfodol mwy cadarn a chyflawni eu potensial yn llawn.Fel yr awgrymir gan ein henw, ein nod yw cynnig llwybr gwell i blant, neu o leiaf y cerrig sarn tuag at ddyfodol mwy disglair.

Pwy ydyn ni

Asiantaeth maethu annibynnol (AMA) yw Gofal Pathway, a sefydlwyd ym 1996, sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i gynnig dewis o leoliadau a sefydlogrwydd i fwy na 400 o blant a phobl ifanc ar unrhyw adeg benodol. I gael mwy o fanylion am yr ardaloedd lle rydym yn gweithredu, cliciwch ar unrhyw un o fotymau’r swyddfeydd rhanbarthol ar frig y dudalen. Mae ein gweithlu’n cynnwys 235 o ofalwyr maeth proffesiynol a 37 o weithwyr cymdeithasol goruchwyliol cymwys llawn amser, sy’n gweithio ar draws ein rhwydwaith o bedair swyddfa ranbarthol: sef Caerdydd (y brif swyddfa), De-Orllewin Lloegr, Gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr.Mae gan ein gofalwyr arbenigedd, hyfforddiant a chefnogaeth, ac maent yn gweithio yn ôl ein hegwyddor bennaf sef bod modd helpu pob plentyn i oresgyn eu hanawsterau wrth fyw gyda theulu maeth.

Yr hyn a wnawn

Mae Gofal Pathway yn gweithio gyda phartneriaid ymhlith yr Awdurdod Lleol i gynnig lleoliadau teuluol tymor byr, tymor canolig, hirdymor ac mewn argyfwng i blant sydd angen gofal maeth. Gall hyn fod, er enghraifft, pan na fydd lleoliad priodol ar gael o fewn adnoddau’r Awdurdod Lleol, neu pan fydd angen i blentyn fyw y tu allan i’w ardal leol ef neu hi.Mae ein gofalwyr yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob oedran. Rydym wedi datblygu ffocws penodol ar gefnogi’r rheiny sy’n ymddwyn yn heriol o ganlyniad i’w profiadau yn y gorffennol, sy’n aml yn cynnwys profiad o gam-drin.

Datblygiad personol 

Yng Ngofal Pathway ystyriwn y profiad o ofal maeth fel cyfle plentyn i gael datblygiad personol a fydd yn newid ei fywyd. Fel yr awgrymir gan ein henw, ein nod yw cynnig llwybr arweiniol a fydd yn arwain at ddyfodol mwy cadarn i’r person ifanc. Trwy ddarparu amgylchedd cartref sefydlog, ein nod yw atal patrwm y plentyn o gael ei wrthod neu ei aflonyddu a’i helpu i ailadeiladu ei fywyd.Nid yw datblygiad personol wedi’i gyfyngu i’r bobl ifanc yn ein gofal.  Mae ein holl ofalwyr yn tyfu ac yn datblygu wrth iddynt symud ymlaen â’u gofal maeth. Mae pecyn hyfforddi a chefnogi cynhwysfawr yn golygu bod gan bob gofalwr gyfle i ddatblygu ei sgiliau allweddol ar gyflymder sy’n briodol iddynt. Er hynny, fel y bydd llawer o’n gofalwyr yn dweud wrthych, does dim i gymryd lle dysgu wrth y gwaith.

Teilwra Gofal

Ein gofalwyr yw asiantau canolog newid mewn bywyd plentyn, ond nid dros nos y bydd newid yn digwydd, ac ni fydd yn bosibl yn arunig. Dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gofalwyr a chyrff eraill, fel awdurdodau addysg ac iechyd, i baratoi cynllun gofal strategol, teilwredig a gefnogir yn dda i fodloni anghenion pob plentyn. Mae symud i gartref newydd, wrth reswm, yn adeg o ansicrwydd a gofid i unrhyw blentyn. Mae potensial am fethiant o fewn unrhyw leoliad teuluol, a gweithiwn yn galed i leihau hyn. Lle bo modd, rydym yn cynllunio trosiannau i leihau amhariad a thrawma gwahanu, a chaiff pob plentyn a’i deulu eu cynnwys yn llawn yn y broses gynllunio a phenderfynu.

Hyfforddiant a chefnogaeth

Oherwydd natur gymhleth a heriol y gofal arbenigol hwn, dewisir ac asesir ein gofalwyr proffesiynol yn ofalus, eu paratoi yn drylwyr a rhoddir hyfforddiant parhaus iddynt. Cynigir cyswllt goruchwylio rheolaidd gan weithwyr cymdeithasol cymwys a chefnogaeth bedair awr ar hugain i’n holl ofalwyr. Rydym yn cynnal rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, sy’n ymdrin â holl feysydd gofal maeth. Mae ein tîm hyfforddi mewnol ymroddedig yn cynnig ystod eang o hyfforddiant craidd, gan gynnwys cwrs tridiau sy’n paratoi at gynnig gofal maeth. Rhoddir y cyfle i’n holl Ofalwyr Maeth hyfforddi am Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.